Cyngor Cymuned Llanllwchaearn

Mae’r ardal hon yn cael ei hadnabod fel cymuned (neu blwyf) Llanllwchaearn. Mae’n cynnwys nifer o bentrefi, gan gynnwys Cross Inn, Maen-y-groes a Phentre’r Bryn. Mae ardal hen blwyf Llanina a phentref Gilfachreda, sydd ar y ffordd rhwng Ceinewydd a Llanarth, hefyd o fewn ffiniau’r gymuned. Rhwng y ddwy ardal honno ceir ardal wledig o heolydd culion o’r enw Cydblwyf sy’n dwyn y ddau blwyf ynghyd.

Fel llawer i ardal arall yng ngorllewin Cymru, mae’r tir a’r môr wedi bod yn ganolog i fywyd Llanllwchaearn drwy’r oesoedd. Amaethyddiaeth a morwriaeth fu’r ddau ddiwydiant fu’n gynhaliaeth i genedlaethau am ganrifoedd.

[Mae’r aradr a’r angor gerllaw yn deyrnged i ffermwyr a morwyr Llanllwchaearn drwy’r oesau].

 

Mae’r ardal hon yn unigryw, o ran mai dyma’r unig ardal sydd â dau adeilad a ddymchwelwyd garreg wrth garreg i’w hailgodi yn Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan.

Melin Bontbren: codwyd Melin Bontbren ar dir fferm Dre-fach rhwng Cross Inn a Chaerwedros yn 1853. Melin flawd ydoedd a yrrwyd gan ddŵr yr Afon Soden. Cyn codi’r bont garreg bresennol croeswyd yr Afon Soden dros Bontbrengrwca a dyna roddodd yr enw i’r felin. Un o deulu Fferm Dre-fach, Mrs Hettie Jones, oedd y melinydd olaf. Bu fyw i weld y felin yn cael ei datgymalu a’i symud, garreg wrth garreg, i Sain Ffagan yn 1970.

Gweithdy’r Teiliwr: Roedd Mr David Thomas yn deiliwr yn Cross Inn ar ddechrau’r 20fed ganrif. Codwyd yr adeilad gwreiddiol yn Cross Inn ym 1896 a'i ddefnyddio i gadw bwyd anifeiliaid. Ychwanegwyd y siop tua dechrau'r 1920au ar ôl i David Thomas gymryd yr adeilad at ei fusnes. Adeilad sinc ydyw, gyda’r muriau mewnol o bren. Mae’n nodweddiadol o weithdai gwledig ei gyfnod. Caewyd y siop ym 1967 a symudwyd yr adeilad i'r Amgueddfa ym mis Medi 1988. Dilladwyd yr ardal gyfan o’r siop hon a braf yw ei gweld ymhlith trysorau’r genedl yn Sain Ffagan yn dyst i waith ein crefftwyr gwledig. Bu un o ferched David Thomas, Gwyneth Mai, yn brifathrawes nodedig ar Ysgol Llanllwchaearn am gyfnod sylweddol.

Llwchaearn Sant: Llwchaearn yw nawddsant eglwys Ceinewydd. Roedd yn perthyn i deulu brenhinol Powys yn y 7fed ganrif ac mae’n cael ei gysylltu ag ardal Caereinion. Mae’n debyg ei fod yn un o dri mab i Caranfael ap Cyndrwyn, tywysog Powys, ynghyd â’i frodyr Aelhaearn a Cynhaearn. Brawd Caranfael oedd Cynddylan. Mae brwydro di-baid Cynddylan a’i feibion yn erbyn y Sacsoniaid ym mrwydr Tren yn rhan ganolog o’r cerddi a elwir yn Ganu Llywarch Hen a Chanu Heledd o’r 9ed ganrif. Gan iddynt golli eu hetifeddiaeth fel teulu fe drodd Llwchaearn at yr eglwys, gan sefydlu dwy lan ym Mhowys a dwy yng Ngheredigion – un yng Nghwm Ystwyth ac un yng Ngheinewydd. Mae’n debyg ei fod wedi ei ddyrchafu yn Abad ac roedd yn ddisgybl i Beuno Sant.


Siôn Cwilt: Ar ddiwedd y 18fed ganrif roedd pethau’n go llwm yng nghefn gwlad Cymru. Daeth Siôn Cwilt yn dipyn o arwr lleol yr adeg honno gan iddo gynorthwyo llawer i gadw’r blaidd o’r drws. Sut? Wel, trwy arwain anturiaethau smyglo lleol! Mae traethau dirgel yr ardal – Cwmtudu, Cwm Silio a Choybal – yn berffaith at y gwaith hynny. Mae’n debyg fod y contraband yn cael ei gludo ar gefn merlod dros yr ucheldir i gyfeiriad Dyffryn Cletwr. Mae rhai’n honni fod gan Sgweiar Alltrodyn rhyw fys yn y briwes hefyd! Dyn dirgel iawn oedd Siôn Cwilt. Fe ddaeth i’r ardal yn ddisymwth ac fe aeth o’r ardal heb fawr o sôn amdano. Yr hyn y gwyddom yw ei fod yn byw mewn tyddyn ar yr ucheldir sy’n dal i ddwyn ei enw, Banc Siôn Cwilt. Enwyd yr ysgol ardal newydd a agorwyd yn 2010 er cof am ei chwedl anturus – Ysgol Bro Siôn Cwilt.

Siani Bob Man: Un o gymeriadau eraill yr ardal yw Siani Bob Man (Jane Leonard, 1834-1917). Roedd Siani yn un o atyniadau twristaidd cynharaf yr ardal. Cafodd ei geni ar Fanc Siôn Cwilt a phan yn ifanc mae’n debyg iddi ddilyn y sipsiwn cyn cael ei siomi gan rhyw gariad neu’i gilydd. Mae’n enwog am ei bod yn byw gyda’i ‘theulu’ o ieir mewn tŷ to gwellt ar y traeth yng Nghei Bach. Bu ei ffraethineb a’i ffordd o fyw syml yn atyniad i filoedd o ymwelwyr a gerddai i’w gweld ar hyd y traeth o Geinewydd.

Ysgrifennwyd y rhigwm hwn amdani gan Parch Aerwyn Jones, Aberdâr:

“Mae Siani Bob Man yn gwneuthur ei rhan
I gadw y Cei mewn poblogrwydd,
Tra eraill i gyd yn gwneuthur dim byd
Ond gwledda ar gefn ei henwogrwydd”.

Mae cof da i Siani yn y Cei o hyd.

Gronw a’r Brenin Ina: Yn ôl y chwedl, flynyddoedd maith yn ôl, tua’r flwyddyn 700 OC, roedd pysgotwr tlawd, Gronw, yn byw ger aber yr afon Llethi gyda’i wraig Malen a‘i ferch Madlen. Un noson stormus fe sylwodd Gronw ar gwch mewn trafferth ar y môr. Penderfynodd geisio achub y morwyr arni. Yn groes i ewyllys Malen aeth â Madlen gydag ef ac fe lwyddodd y ddau ohonyn nhw achub saith o ddynion bonheddig yr olwg. Roedd un ohonyn nhw’n edrych yn fonheddig ac awdurdodol iawn – nid yn aml bu dynion felly yn sychu eu dillad ar lannau’r Llethi! Rhwng hir a hwyr deallodd Gronw mai Saeson oedden nhw ond doedd dim modd gwybod mwy nes i fynach Henfynyw gyrraedd i gyfieithu. Pryd hynny deallwyd mai Ina, Brenin Wessex (688-726), oedd y gŵr awdurdodol a achubwyd o’r tonnau. I ddangos ei ddiolchgarwch, talodd Ina i’r mynach am godi eglwys newydd ar lannau’r Llethi – Llanina – a rhoddodd ddigon o rodd i Gronw a’i deulu i’w cadw’n ddiddig a diddos tra’u bod byw.

Am fwy o wybodaeth am hanes Llanllwchaearn a’r ardal gweler:

  • Llanllwchaearn: a parish history, Sue Passmore, Grosvenor House, Guildford: 2010.
  • Llanina & Cytblwyf, Sue Passmore, Grosvenor House, Guildford: 2011.
  • Farmers & Figureheads: The Port of New Quay and its Hinterland, Sue Passmore, Grosvenor House, Guildford: 2012.