Cyngor Cymuned Llanllwchaearn

Cyngor Cymuned Llanllwchaearn yn dathlu ar ôl cael £58,693 o arian y Loteri Genedlaethol

Mae Ardal Chwarae Bro Hafan wedi'i lleoli yn Cross Inn, Llandysul, Ceredigion yn dathlu heddiw ar ôl derbyn £58,693 mewn cyllid gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, sef y cyllidwr mwyaf o weithgarwch cymunedol yn y DU.  

Bydd Cyngor Cymuned Llanllwchaearn yn defnyddio eu harian i greu parc newydd i'r gymuned a fydd yn hygyrch i bawb. Ein gobaith yw y bydd yr ardal chwarae newydd yn cynnig amgylchedd chwarae diogel a phleserus i blant. Mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn codi dros £30 miliwn yr wythnos ar gyfer achosion da ledled y DU. Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn dosbarthu cyfran o hyn i brosiectau i gefnogi pobl a chymunedau i ffynnu a ffynnu.

 Meddai Sioned Davies, Clerc y Cyngor Cymuned a’r Cynghorydd Meleri Richards sy'n arwain y prosiect: "Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae'r grant hwn yn golygu y gallwn ddarparu amgylchedd chwarae diogel a phleserus i blant. Bydd hyn yn gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau pobl."

 Yn ystod y pandemig, yn 2020 yn unig, dosbarthodd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol bron i £1 biliwn i elusennau a sefydliadau cymunedol ledled y DU

 I gael gwybod mwy ewch i Hafan | Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol (tnlcommunityfund.org.uk)

11.05.23

Cyngor Cymuned Llanllwchaearn 

 Mae eich barn yn bwysig!!!!

Mae Cyngor Cymuned Llanllwchaearn yn bwriadu gwneud cais am grant drwy Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i adnewyddu Parc Bro Hafan, Cross Inn.

Rydym yn edrych am awgrymiadau neu syniadau sydd gan deuluoedd yn y gymuned ar sut i wella’r parc, beth dymunwn weld yn y parc newydd a hefyd y pwysigrwydd o gael parc cymunedol yn y pentref.


I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:
Chlerc y Cyngor Cymuned ar yr e-bost canlynol;
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.

Er mwyn dathlu Dydd Gŵyl Dewi 2022, mae Cyngor Cymuned Llanllwchaearn wedi prynu baner ddraig Goch newydd ar gyfer Bro Hafan, Cross Inn. Dyma’r faner wedi cael ei chodi gan Gynghorwyr Gareth Ioan a Silyn Roberts.

Ar gyfer y flwyddyn ariannol 2021-2022, mae Cyngor Cymuned Llanllwchaearn wedi cyfrannu at y sefydliadau yma;
Merched y Wawr, cangen y Bryiau - £100.00
Sefydliad y Merched, Cross Inn - £150.00
Neuadd Caerwedros - £400.00
CFFI Caerwedros - £200.00
Sioe Caerwedros - £400.00
Ysgol Bro Sion Cwilt - £500.00
Elusen Ysbyty Arch Noa - £50.00
Gofal Canser Tenovous - £50.00

Elusen Ambiwlans Awyr Cymru - £75.00

Pwll Nofio Aberaeron - £75.00