Mae plwyf Llanllwchaearn wedi ei leoli yng nghalon Ceredigion ac yn rhan o Ward Llandysilio-go-go. Cynrychiolir y Gymuned gan saith Cynghorydd Cymunedol etholedig. Mae yna un Cynghorydd Sir a chyfrifoldeb dros y Ward gyfan. Mae’r Gymuned yn cynnwys pentrefi MaenyGroes, Cross Inn, Cei Bach yn ogystal a rhan o bentrefi Pentre’r Bryn, Gilfachreda a Llaingarreglwyd. Mae dylestswyddau’r Cyngor yn eang iawn a chynhelir cyfarfodydd misol yn Festri Capel Maen y Groes er mwyn delio
gyda’r gwaith. Cyflogir clerc rhan amser ar gyfer yr ochr weinyddol a derbynnir praesept oddi wrth y Cyngor Sir i ariannu’r Cyngor. Mae’r Cyngor yn gweinyddu cynllun grantiau blynyddol er mwyn cynnig nawdd i sefydliadau a chymdeithasau lleol.
Cross Inn: Tyfodd y pentref yn ystod y 18fed ganrif a hynny o amgylch y dafarn sydd ar y sgwâr – sef y ‘Cross Inn’. Ail enwyd y dafarn yn Penrhiwgaled Arms ar droad y 19eg ganrif i nodi’r ffaith mai teulu Fferm Penrhiwgaled oedd piau’r dafarn. Roedden nhw hefyd yn berchen ar y tir o’i amgylch a’r rhan fwyaf o dai y pentref ar yr adeg honno. Tyfodd Cross Inn eto yn niwedd y 19eg ganrif gyda chodi Eglwys y Drindod Sanctaidd (1871), Capel MC Penuel (1872) ac Ysgol Llanllwchaearn (1875). Heddiw mae Cross Inn yn ganolog i fywyd masnachol yr ardal.
Maen-y-groes: Tyfodd pentref Maen-y-groes o amgylch croesffordd ar dir corsiog uwchben Ceinewydd a elwid Y Gwastad Mawr. Yn 1828 codwyd capel cynulleidfaol ar dir tyddyn Maen-y-groes gerllaw. Tyfodd pentref o amgylch y groesffordd ger Gwastad Mawr ond rhoddwyd enw’r capel ar y pentref.
Pentre’r Bryn: Tyfodd Pentre’r Bryn o amgylch tyddyn Bryn-coch (safle maes carafanau Brownhill heddiw) ymhlith eraill. Bu cryn adeiladu tai yno yn negawdau olaf yr ugeinfed ganrif, gan lanw bylchau rhwng nifer o’r tyddynod. Gwasanaethir y pentref gan Eglwys Annibynnol Brynrhiwgaled ers 1781, mam eglwys yr ardal. Dewiswyd yr enw Pentre’r Bryn yn enw swyddogol ar y pentref gan y trigolion yn 1995.
Gilfachreda: Mae Gilfachreda yn gorwedd ar lannau’r afon Gido ac fe dyfodd o amgylch melin a ffatri a fu’n defnyddio dŵr yr afon Gido i greu ynni. Codwyd Capel y Wern gerllaw yn 1815 ar dir ym meddiant Plas y Wern, Llanarth.